Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Senedd and Elections (Wales) Bill

CLA(5) SE12

Ymateb gan y Comisiwn Etholiadol

Evidence from Electoral Commission

Mae’r ymateb hwn yn nodi ein barn ar dri maes allweddol yn y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sy’n berthnasol i gylch gwaith y Comisiwn: goblygiadau estyn yr hawlfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed; anghymhwyso a bod yn gymwys i sefyll mewn etholiadau; a threfniadau ariannol a throsolwg y Comisiwn.

Mae’n adeiladu ar ein hymatebion blaenorol i ymgynghoriad "Creu Senedd i Gymru" Comisiwn y Cynulliad ym mis Ebrill 2018, cwestiynau’r Panel Arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad ym mis Ebrill a mis Mai 2017 ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio etholiadol yn 2017.

Rydym yn barod i barhau i weithio gyda’r Cynulliad wrth iddo gyflwyno’r diwygiadau hyn.

Negeseuon allweddol

·                Dylai deddfwriaeth sy’n diwygio’r etholfraint fod yn glir o leiaf chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau gweithgareddau canfasio arfaethedig fel y gall y rhai sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio gymryd y camau angenrheidiol i gofrestru i bleidleisio.

·                Dylai unrhyw newidiadau i’r gyfraith ynglŷn â’r adeg y bydd person yn anghymwys i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i sefyll etholiad fel ymgeisydd i’r Cynulliad gael eu datgan yn glir fel y gall darpar ymgeiswyr wybod yn hawdd p’un a ydynt yn anghymwys o bosibl.

·                Rydym yn croesawu’r cynigion yn y Bil i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau ynglŷn ag etholiadau yng Nghymru er mwyn gweithredu’r newidiadau i gyfraith etholiadol a argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith dros Gymru a Lloegr. Gallai hyn gael effaith gadarnhaol sylweddol i bawb sy’n ymwneud â’r broses etholiadol, am fod corff cyfraith etholiadol y DU yn helaeth, yn gymhleth ac wedi dyddio erbyn hyn.


 

Estyn yr hawlfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed

·         Dylai deddfwriaeth sy’n diwygio’r etholfraint fod yn glir o leiaf chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau gweithgareddau canfasio arfaethedig fel y gall y rhai sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio gymryd y camau angenrheidiol i gofrestru i bleidleisio.

·         Mae newidiadau i ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio eisoes wedi cael eu rhoi ar waith yn effeithiol yn yr Alban. Mae’r prosesau a’r trefniadau a ddefnyddiwyd yno yn cynnig gwersi pwysig i Gymru.

·         Byddai angen gwneud newidiadau sylweddol i ganllawiau, ffurflenni a systemau meddalwedd rheoli etholiadol er mwyn sicrhau y gallant gefnogi’r broses o roi’r newidiadau i’r etholfraint ar waith yn effeithiol.

·         Byddai’r Comisiwn Etholiadol yn disgwyl ymgymryd â gweithgarwch addysg a chodi ymwybyddiaeth yn targedu pobl ifanc 16 a 17 oed yn benodol, gan eu hysbysu eu bod yn gymwys i bleidleisio a rhoi gwybodaeth am sut i gofrestru a phleidleisio.

1.1            Nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn arddel barn ar ba oedran y dylid cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad. Mae’r etholfraint yn benderfyniad cyfansoddiadol pwysig, ac mae’n briodol mai’r ddeddfwrfa ddylai benderfynu pwy sy’n gymwys i bleidleisio. Felly, mae ein hymateb yn canolbwyntio ar oblygiadau ymarferol unrhyw newidiadau, a’r hyn y byddai angen ei wneud er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael ac y gellir eu rhoi ar waith er budd pennaf pleidleiswyr.

1.2          Dylai deddfwriaeth sy’n gwneud unrhyw newidiadau i’r etholfraint fod yn glir chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau unrhyw weithgarwch canfasio arfaethedig. Bydd hyn yn golygu bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol, ymgyrchwyr a’r Comisiwn yn cael amser i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y gall pawb sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio gofrestru’n llwyddiannus a chymryd rhan mewn etholiadau yn y dyfodol.

1.3          Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu y dylai’r ddeddfwriaeth sy’n diwygio’r etholfraint fod yn glir erbyn dechrau 2020, a hynny am y bydd y canfasiad blynyddol o gartrefi yn dechrau yn haf 2020 i gasglu’r wybodaeth y byddai ei hangen er mwyn sicrhau bod pobl ifanc 16 a 17 oed ar y gofrestr etholwyr ar gyfer yr etholiad arfaethedig i’r Cynulliad ym mis Mai 2021.

1.4          Yn yr Alban, roedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014 ac maent wedi cael pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiad Senedd yr Alban ers mis Mai 2016. Mae’r prosesau a’r trefniadau a ddefnyddiwyd yn cynnig gwersi pwysig i Gymru o ran rhoi’r newidiadau ar waith yn ymarferol.

1.5          Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cynnwys darpariaethau yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd yn yr arfaeth i ostwng yr isafswm oedran pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i 16 oed. Dylai Comisiwn y Cynulliad barhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau i etholfraint etholiadau’r Cynulliad yn cael eu rheoli’n gyson â’r rhai ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Cofrestru

1.6          Mae’r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer gostwng yr oedran pleidleisio mewn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol ac yn gwneud diwygiadau i’r gyfraith etholiadol bresennol o ran y ffordd y mae’r system gofrestru yn gweithredu. Rydym wedi nodi isod beth y bydd y newidiadau hyn yn ei olygu’n ymarferol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’r Comisiwn Etholiadol, a beth y bydd angen ei wneud i’w cyflwyno.

1.7          Ar hyn o bryd, yr isafswm oedran pleidleisio yng Nghymru yw 18 oed. Mae hyn yn golygu bod gan bobl ifanc 17 oed a rhai pobl ifanc 16 oed yr hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr fel cyrhaeddwyr – os byddant yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed tra bo’r gofrestr honno mewn grym. Mae ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed yn golygu y byddai pobl ifanc 15 oed a rhai pobl ifanc 14 oed yn cael yr hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr fel cyrhaeddwyr.

Y canfasiad blynyddol ac anfon Gwahoddiadau i Gofrestru

1.8          Mae’r Bil yn darparu rheolau newydd i ddiogelu gwybodaeth am bobl o dan 16 oed. Mae hyn yn cynnwys atal Swyddogion Cofrestru Etholiadol rhag argraffu dyddiad geni unrhyw un o dan 16 oed ar y ffurflen ganfasio ragargraffedig neu wneud ymholiadau o dŷ i dŷ mewn perthynas ag unrhyw un o dan 16 oed. Byddem yn croesawu cadarnhad bod Comisiwn y Cynulliad wedi ceisio cyngor gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y trefniadau ymarferol a gynigir ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio yn adlewyrchu safonau diogelu data priodol.

1.9          Bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru ddod o hyd i ffyrdd amgen o roi gwybodaeth am sut i gofrestru i bobl ifanc 14 a 15 oed. Yn yr Alban, er enghraifft, gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon e-bost at bobl ifanc 14 a 15 oed, yn hytrach na chynnal ymweliad personol os nad ydynt yn ymateb i’r canfasiad blynyddol o gartrefi nac unrhyw weithgarwch canfasio arall yn ystod y flwyddyn.

1.10      Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gynigion i ddiwygio’r broses ganfasio flynyddol. Os caiff cynigion i ddiwygio’r broses ganfasio eu rhoi ar waith ar gyfer cofrestrau etholwyr Cymru, bydd angen i Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad sicrhau eu bod yn ystyried goblygiadau’r newidiadau pellach hyn i gyrhaeddwyr 14 a 15 oed. Rydym ar ddeall bod Llywodraeth yr Alban hefyd yn ystyried goblygiadau ymarferol diwygiadau i’r canfasiad ar gyfer cyrhaeddwyr 14 a 15 oed yn yr Alban.

Etholwyr categori arbennig: datganiad o gysylltiad lleol

1.11         Pe bai’r amgylchiadau lle y caniateir i rywun wneud datganiad o gysylltiad lleol yn cael eu diwygio yn y ffordd a nodwyd yn y Bil, byddai angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ystyried sut y byddent yn ymgysylltu â’r canlynol:

·                plant sy’n derbyn gofal neu sy’n cael eu goruchwylio gan yr awdurdod

·                plant sy’n cael eu cadw mewn llety diogel

·                plant y mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt o dan orchymyn cyfreithiol a roddwyd gan lys.

1.12       Yn yr Alban, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth o sut i gofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ymhlith plant sy’n "derbyn gofal" gan y cyngor hwnnw (a all fod hyd at 18 oed) a rhoi cymorth i helpu pobl ifanc o’r fath i gofrestru. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol fynd ati i ymgysylltu ag adrannau eraill a’r staff mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill sydd â chyfrifoldebau gofal. Byddem yn annog gofyniad tebyg i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru.

Gwasanaeth Digidol, cytundebau rhannu data a Systemau Rheoli Etholiadol

1.13       Os bydd yr oedran pleidleisio yn gostwng bydd goblygiadau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol y bydd angen iddynt ddilysu manylion adnabod etholwyr o dan 16 oed nad ydynt o bosibl wedi cael eu rhif Yswiriant Gwladol a’u hawl i gofrestru. Mae’r profiad o ostwng yr oedran pleidleisio yn yr Alban yn awgrymu y gallai cytundebau rhannu gwybodaeth â sefydliadau addysg helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyda’r gwaith o gofrestru pobl ifanc o dan 16 oed ac y gallent gael eu defnyddio fel adnodd i annog cofrestru.

1.14       At hynny, bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol drafod y newidiadau y bydd angen eu gwneud i’w Systemau Rheoli Etholiad gyda chyflenwyr er mwyn bodloni gofynion y newidiadau i’r etholfraint. Gallai Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru chwarae rhan bwysig yn hyn o beth, ond byddai angen digon o amser i gydlynu’r gwaith hwn.

Ffurflenni a chanllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol

1.15       Mae’r Bil yn gosod gofyniad ar y Comisiwn Etholiadol i ddatblygu ffurflenni cofrestru sy’n ystyried newidiadau deddfwriaethol ynglŷn â phobl ifanc 16 a 17 oed. Er mwyn datblygu ffurflenni cofrestru newydd bydd angen digon o amser i’w profi gyda defnyddwyr, eu cyfieithu, eu dylunio a’u cynhyrchu, yn ogystal â chael eu cymeradwyo gan Weinidog.

1.16       Bydd angen newid ffurflenni cofrestru hefyd o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i’r broses ganfasio flynyddol.

1.17       Byddem yn croesawu’r cyfle i drafod y broses o ddylunio’r ffurflenni diwygiedig gyda swyddogion Comisiwn y Cynulliad cyn gynted ag y bo modd.

1.18       Byddwn hefyd yn diweddaru ein canllawiau i adlewyrchu’r newidiadau i’r etholfraint er mwyn sicrhau bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ymgymryd â gweithgarwch cofrestru a chynnal cofrestrau etholwyr cywir a chyflawn.

Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn hysbysu pobl am y newid i’r etholfraint

1.19       Cyn unrhyw etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddai’r Comisiwn Etholiadol yn disgwyl cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog etholwyr cymwys yng Nghymru i gofrestru i bleidleisio.

1.20    Os bydd yr isafswm oedran pleidleisio yn gostwng, rydym yn rhagweld y byddem yn cynnal gweithgareddau penodol ychwanegol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd gan dargedu pobl ifanc 15, 16 a 17 oed er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol eu bod bellach yn gymwys i gofrestru i bleidleisio. Byddem hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â sut i bleidleisio i’r rhai a fyddai’n cyrraedd yr oedran pleidleisio erbyn dyddiad y bleidlais.

1.21       Byddem yn disgwyl i’n gwaith i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd gynnwys:

·                ymgymryd â hysbysebion penodol i dargedu’r grŵp hwn, ochr yn ochr â’n hymgyrch hysbysebu ar y cyfryngau torfol i etholwyr yn fwy cyffredinol cyn unrhyw bleidlais fawr berthnasol;

·                gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ieuenctid sydd â sianeli cyfathrebu effeithiol eisoes i gyrraedd y gynulleidfa darged;

·                rhoi adnoddau cost isel i bartneriaid, gan gynnwys Swyddogion Cofrestru Etholiadol, er mwyn hyrwyddo negeseuon ynglŷn â chofrestru a gwybodaeth i bleidleiswyr ymhlith eu cynulleidfaoedd;

·                ymgymryd â gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus a phartneriaeth yn y cyfnod cyn unrhyw bleidlais fawr berthnasol er mwyn sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fwrw eu pleidlais;

1.22     Byddem am adeiladu ar ein profiad yn yr Alban sy’n ei gwneud yn glir pa mor bwysig ydyw ymgysylltu â phobl ifanc tra byddant yn dal yn yr ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol eu bod bellach yn gymwys i gofrestru i bleidleisio. Byddem am weithio gyda phartneriaid addysgol ac awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn nodi cyfleoedd i gefnogi llythrennedd gwleidyddol parhaus mewn ysgolion ac annog pobl ifanc i gofrestru pan fyddant yn cyrraedd yr oedran i wneud hynny.

1.23      Rydym hefyd yn bwriadu paratoi deunyddiau addysg i’w defnyddio gyda phobl ifanc 15 i 17 oed gyda’r nod o’u helpu i ddeall y broses ddemocrataidd yn well a chymryd rhan ynddi.

Gwaith codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn yr Alban

·         Yn yr Alban, aethom ati i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn cynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a oedd wedi’u hanelu at bobl ifanc 15 i 17 oed. Roedd y rhain yn cynnwys Education Scotland, School Leaders Scotland, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yr Alban ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau ieuenctid megis Young Scot a Senedd Ieuenctid yr Alban.

·         Gan weithio gyda phartneriaid addysg yn yr Alban, lluniwyd pecyn briffio llythrennedd gwleidyddol gennym a oedd yn cynnig arweiniad a ffynonellau o wybodaeth i ysgolion, colegau, prifysgolion a phob sefydliad arall a oedd yn awyddus i feithrin llythrennedd gwleidyddol ymhlith pobl ifanc.

·         Gwnaethom hefyd ddatblygu ymgyrch o’r enw ‘ReadyToVote’ a gynhaliwyd cyn etholiad Senedd yr Alban yn 2016 ac etholiadau cynghorau’r Alban yn 2017. Roedd yr ymgyrch yn annog ysgolion ledled yr Alban i gynnal digwyddiadau cofrestru pleidleiswyr gyda’r holl ddisgyblion cymwys ac yn rhoi adnodd addysgu digidol i ysgolion er mwyn eu helpu i wneud hyn. Cytunodd dros 80% o ysgolion uwchradd yn yr Alban i gymryd rhan yn yr ymgyrch hon.

Goblygiadau o ran costau

1.24     Mae’r Comisiwn yn fodlon ar y costau dangosol sydd wedi’u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y maes gwaith hwn yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu ein hasesiad o oblygiadau gostwng yr isafswm oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad o ran costau yn ein hymateb i’r Panel Arbenigol ym mis Mai 2017.

Anghymhwyso - pwy sy’n gymwys i sefyll etholiad

·         Dylai unrhyw newidiadau i’r gyfraith ynglŷn â’r adeg y bydd person yn anghymwys i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu sefyll etholiad fel ymgeisydd i’r Cynulliad gael eu datgan yn glir fel y gall darpar ymgeiswyr sydd am sefyll etholiad wybod yn hawdd p’un a ydynt yn anghymwys o bosibl.

·         Dylid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau chwe mis cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau fel y gall unrhyw newidiadau gael eu deall.

1.25     Rydym yn croesawu’r hyn a gynigir yn y Bil i newid y gyfraith ynglŷn â’r adeg y bydd person yn anghymwys i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu sefyll etholiad fel ymgeisydd i’r Cynulliad. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn a argymhellwyd gennym yn ein hadroddiad yn 2015 ar Sefyll Etholiad, y dylid newid y gyfraith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn gwahaniaethu’n glir rhwng swyddi neu gyflogaeth a fyddai’n atal rhywun rhag sefyll etholiad, a’r rhai a fyddai’n atal rhywun rhag dal swydd pe byddai’n cael ei ethol.

1.26     Mae’n bwysig bod y newidiadau hyn yn cael eu nodi’n glir o dan y gyfraith fel y gall darpar ymgeiswyr sydd am sefyll etholiad wybod yn hawdd os ydynt yn anghymwys o bosibl. Mae’n bwysig hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau chwe mis cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau fel y gall unrhyw newidiadau gael eu deall.

1.27     Rydym yn parhau i argymell y dylai unrhyw ddeddfwriaeth fod yn ei lle o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y daw’n ofynnol ei rhoi ar waith neu y daw’n ofynnol i ymgyrchwyr,  Swyddogion Canlyniadau neu Swyddogion Cofrestru Etholiadol gydymffurfio â hi. Bydd hyn yn ein galluogi i ddiwygio ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau ac ymgeiswyr ac asiantiaid, yn ogystal â diwygio’r ffurflenni enwebu sydd wedi’u rhagnodi mewn deddfwriaeth, gan gynnwys y datganiad cydsynio ag enwebiad. Bydd angen i’r ffurflen cydsynio ag enwebiad hefyd adlewyrchu’r newidiadau yn y Gorchymyn Anghymhwyso.

1.28     Bydd angen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 gael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu’r newidiadau a gynigir o ran anghymhwyso cyn etholiadau nesaf y Cynulliad. Dylai Gweinidogion ystyried y cwestiynau a nodwyd gennym yn ein hadroddiad Sefyll Etholiad er mwyn helpu i bennu p’un a ddylai deiliaid swydd penodol gael sefyll etholiad:

·                Yn gyntaf, a oes gwrthdaro buddiannau gwirioneddol rhwng y swydd benodedig a’r swydd etholedig? Os felly, byddai’n rhaid i ddeiliad y swydd ymddiswyddo cyn derbyn swydd etholedig.

·                Yn ail, a oes angen i ddeiliad y swydd fod wedi ymddiswyddo a gweithio ei gyfnod o rybudd erbyn enwebiad neu etholiad, er enghraifft:

o      A yw rôl deiliad y swydd yn gofyn am fod yn ddiduedd yn wleidyddol yn ystod yr ymgyrch etholiadol?

o      A oes gan ddeiliad y swydd fynediad at wybodaeth freintiedig a fyddai’n rhoi mantais iddo dros ymgeiswyr eraill?

o      A allai deiliad y swydd gael gormod o ddylanwad dros etholwyr drwy rinwedd ei rôl?

o      A yw deiliad y swydd ynghlwm wrth weinyddu’r etholiad?

Trefniadau trosolwg y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig

·         Er mwyn diogelu egwyddor sylfaenol ein hannibyniaeth, rhaid i’r Comisiwn gael ei gyllido gan y ddeddfwrfa berthnasol yn hytrach na’r llywodraeth.

·         Rydym yn croesawu’n frwd unrhyw graffu ac atebolrwydd ar y ffordd rydym yn gwario cyllid cyhoeddus i’r ddeddfwrfa sy’n ei ddarparu.

1.29     Mae’r Bil yn gosod gofyniad ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ystyried y trefniadau ariannol a throsolwg ar gyfer gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig yng Nghymru a refferenda datganoledig. Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol ymateb i unrhyw argymhellion sy’n berthnasol iddo drwy osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

1.30    Ers mis Mehefin 2017, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn gweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ar y manylion ynglŷn â sut y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn atebol i’r Cynulliad a sut y câi ei gyllido. Ar 12 Mawrth cyflwynwyd tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid fel rhan o’i waith craffu ar oblygiadau ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

1.31       Ers sefydlu’r Comisiwn Etholiadol, rydym wedi adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â materion craffu ar bolisi ac mae gennym hanes hir o roi tystiolaeth a chyngor. Rydym yn disgwyl parhau â’r trefniant hwn o adrodd i Bwyllgorau’r Cynulliad ar bolisi.

1.32     Rydym yn croesawu’n frwd brosesau craffu ac atebolrwydd am y ffordd rydym yn gwario cyllid cyhoeddus i’r ddeddfwrfa sy’n ei ddarparu.

1.33     Yn ein barn ni, dylai’r corff rydym yn rhoi cyfrif iddo yn y Cynulliad:

·                Fod yn annibynnol ar unrhyw adran yn Llywodraeth Cymru;

·                Adrodd yn uniongyrchol i’r Cynulliad;

·                Cael ei gadeirio gan gynrychiolydd nad yw cynrychioli plaid (Llywydd neu Ddirprwy Lywydd).

1.34     Mae trafodaethau blaenorol gyda Chomisiwn y Cynulliad wedi nodi y gallai rhai o’r trefniadau presennol sydd ar waith gael eu defnyddio er mwyn i’r Comisiwn Etholiadol adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys panel presennol Comisiynwyr y Cynulliad yn sefydlu Pwyllgor Llywydd ar wahân - model a fyddai’n debyg i Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol yn Senedd y DU.

1.35     Byddai swyddogaethau’r corff hwn yn cynnwys:

·                Trosolwg cyffredinol o’r modd y mae’r Comisiwn Etholiadol yn arfer ei swyddogaethau sy’n deillio o’r ddeddfwrfa honno;

·                Adolygu amcangyfrif blynyddol o adnoddau’r Comisiwn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau o dan ei gyfrifoldeb deddfwriaethol;

·                Ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn baratoi adroddiad blynyddol er mwyn hwyluso’r gwaith o graffu ar weithgareddau’r Comisiwn;

·                Cael adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru / Swyddfa Archwilio Cenedlaethol a Swyddog Cyfrifyddu y Comisiwn.

1.36     Nodir y cylch cynllunio busnes ac atebolrwydd presennol ar gyfer y Comisiwn yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno Cynllun Corfforaethol newydd ar ôl pob un o Etholiadau Cyffredinol Senedd y DU ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyllidebau dangosol ar gyfer y pum mlynedd. Yna byddwn yn cyflwyno cynllun busnes a chyllideb flynyddol ar y cyd â’r prif amcangyfrif ar gyfer pob blwyddyn ynghyd â chyllideb pob blwyddyn. Mae PPERA hefyd yn cadarnhau mai Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU sy’n gyfrifol am archwilio cyfrifon y Comisiwn a gwerth am arian.

1.37     Mae cylchoedd etholiadol y DU, Lloegr, Cymru a’r Alban i gyd yn wahanol. Hefyd, caiff llawer o weithgarwch y Comisiwn ei gyflawni’n fwyaf effeithlon ar draws y Comisiwn cyfan. Felly, byddai’n anodd llunio cynlluniau corfforaethol daearyddol-benodol ar adegau gwahanol. Gallai’r rhain orgyffwrdd a dyblygu llawer o’r deunydd neu gallent ymddangos fel petaent yn gwrthddweud ei gilydd wrth i amgylchiadau newid.

1.38     Felly, rydym yn cynnig parhau â’n cylchoedd cynllunio busnes presennol. Rydym eisoes yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd ar weithgarwch daearyddol-benodol. Fodd bynnag, byddwn yn anelu at fod hyd yn oed yn gliriach yn y dyfodol ynghylch pa weithgarwch sydd yn yr arfaeth a beth yw’r manteision i’r pleidleiswyr ym mhob rhan o’r DU.

1.39     Ar hyn o bryd mae PPERA yn penodi Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU fel Archwilydd y Comisiwn. Y cynnig presennol yw y dylai’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol barhau fel archwilydd y Comisiwn, gan adrodd hefyd i’r deddfwrfeydd datganoledig. Rydym yn trafod â Thrysorlys EM y ffordd orau o gyflawni hyn, yn benodol p’un a fydd angen cyfarwyddyd newydd o ran cyfrifon.

1.40    Rydym yn cydnabod y bydd deddfwrfeydd am gael pŵer wrth gefn hefyd i ddefnyddio archwilwyr mewn ymateb i bryderon a theimlwn y gellid cyflawni hyn drwy bŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gydweithredu ag unrhyw archwiliad o’r fath.

1.41       Wrth baratoi ein cynlluniau byddem yn parhau i ymgynghori â swyddogion yng Nghomisiwn y Cynulliad fel y bo angen, yn ogystal â San Steffan a’r deddfwrfeydd a’r llywodraethau eraill. Byddem hefyd yn disgwyl bodloni’r amserlenni gofynnol er mwyn cyd-fynd â’r gwaith craffu ym mhob rhan o’r DU. Wrth gwrs, bydd hyn yn gwneud y broses o gynllunio busnes yn fwy cymhleth i’r Comisiwn ond croesawn y cyfle i sicrhau bod blaenoriaethau wedi’u cysoni’n well ym mhob rhan o’r DU ac rydym yn disgwyl gallu darparu ar gyfer y broses o fewn yr adnoddau a gynlluniwyd.

1.42     Nid ydym yn rhagweld unrhyw anawsterau mawr yn ymarferol, ond gallwn weld bod dadl dros sicrhau bod swyddogion yn y rhannau gwahanol o’r DU yn meithrin cydberthnasau rhwng y deddfwrfeydd er mwyn sicrhau bod y gwaith craffu mor gydgysylltiedig â phosibl.

Pwyntiau eraill a gafodd eu cynnwys yn y Cylch Gorchwyl 

1.43     Rydym yn croesawu’r cynigion yn y Bil i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau ynglŷn ag etholiadau yng Nghymru er mwyn gweithredu’r newidiadau i gyfraith etholiadol a argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith dros Gymru a Lloegr.

1.44      Mae corff cyfraith etholiadol y DU yn helaeth, yn gymhleth ac wedi dyddio erbyn hyn. Teimlir effaith hyn gan y rhai sy’n cynnal etholiadau a’r rhai sydd am sefyll etholiad ac ymgyrchu. Mae cyfraith etholiadol symlach a mwy cyfoes yn sail i hyder pleidleiswyr mewn trefniadau gweinyddu etholiadol a chyllid gwleidyddol, ac mae’n sylfaen angenrheidiol hefyd dros ddiwygio prosesau etholiadau a chofrestru etholiadol ymhellach.

1.45     Rydym yn parhau i gefnogi’n gryf argymhellion cynhwysfawr Comisiynau’r Gyfraith yn 2016 i symleiddio, rhesymoli a chydgrynhoi cyfraith etholiadol. Mae argymhellion Comisiynau’r Gyfraith wedi cael eu cefnogi’n gyffredinol gan y mwyafrif llethol o randdeiliaid etholiadol, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, heddluoedd ac erlynwyr.

1.46     Ar gyfer etholiadau yng Nghymru yn y dyfodol, dylai Comisiwn y Cynulliad barhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddiwygiadau i drefniadau etholiadol y Cynulliad eu gwneud ar wahân, ond eu bod yn ystyried y gwaith sy’n mynd rhagddo ar ddiwygio etholiadau llywodraeth leol. Bydd hyn yn ein helpu i symud tuag at fwy o gysondeb rhwng y gyfraith ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

1.47     Byddem yn croesawu’r cyfle i gefnogi a chynorthwyo gyda’r gwaith o roi argymhellion Comisiynau’r Gyfraith ar waith ar gyfer etholiadau yng Nghymru.